minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Gwneir casgliad arbennig y Sul hwn i gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol yn y Dwyrain Canol • A retiring collection is being made this Sunday to support the work of Christian Aid in the Middle East
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...

Un o gyfres o ffotograffau gan yr artist o’r Iseldiroedd, Thijs Wolzak, ar gyfer y Laurenskerk yn Rotterdam, sy'n cynnig darluniau cyfoes o’r saith gweithred o drugaredd gorfforol

Cefnogi gwaith Cymorth Cristnogol yn y Dwyrain Canol

Gwneir casgliad arbennig wrth adael y Sul hwn i gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol yn y Dwyrain Canol.

Yng ngoleuni’r erchyllterau yn Israel ar 7 Hydref a’r argyfwng dyngarol sy’n datblygu yn Gaza, mae Cymorth Cristnogol wedi gofyn am ein cefnogaeth hael.

Mae Cymorth Cristnogol wedi bod yn gweithio gyda phobl dlotaf a mwyaf bregus y Dwyrain Canol ers y 1950au cynnar.

Yn Gaza ar hyn o bryd, mae partner meddygol Cymorth Cristnogol yn darparu gofal meddygol a seicolegol symudol. Ymateb lleol yw hwn lle mae mynediad cyfyngedig, a bydd yn galluogi cleifion sydd wedi cael eu rhyddhau’n gynnar o ysbytai gorlawn difrifol i gael eu trin gartref. Mae’r clinig iechyd symudol yn rhoi mynediad i bobl at feddyg, nyrs, gweithiwr cymdeithasol neu ffisiotherapydd. Bydd y tîm gwisgo symudol yn cyrraedd pobl sydd angen newid gorchuddion clwyfau, gan leihau’r risg o haint.

Yn ne Gaza, mae asiantaeth bartner leol arall yn ymateb i’r rhai sydd wedi’u dadleoli’n fwyaf diweddar i dde Gaza o ganlyniad i’r rhyfel. Maent yn darparu matresi, meddyginiaethau ar gyfer y rhai â salwch cronig, a bwyd brys o gegin gymunedol ar gyfer tua 200 o bobl sydd wedi’u dadleoli.

Gellir rhoi rhoddion mewn arian parod yn y basgedi a ddarperir; defnyddiwch amlen Cymorth Rhodd os gallwch wneud hynny. Hefyd, bydd yr holl roddion a wneir ar ôl y gwasanaeth o’r pwynt rhoi digyswllt yn cael eu trosglwyddo i Gymorth Cristnogol.


Cinio Dewch a Rhannu

Cynhelir ein dau Ginio Dewch a Rhannu nesaf am 12.15pm, yn dilyn y Choral Holy Eucharist, y Sul hwn 29 Hydref ac ar 17 Rhagfyr. Mae’n Cinio Dewch a Rhannu yn gyfle am sgwrs, difyrrwch, croeso a charedigrwydd. Gwahoddir pawb; ac os hoffech awgrymiadau am fwyd i’w ddwyn, siaradwch â Canon Jane Coutts.


Cymun dros yr Holl Eneidiau

Rhowch y Cymun Bendigaid ar Gân Dros y Meirw, am 6.00pm nos Sul 5 Tachwedd, a fydd yn Goffadwriaeth yr Holl Eneidiau, yn eich dyddiaduron. Caiff y Cymun ei gynnig dros yr holl ffyddloniaid ymadawedig; bydd unigolion yn cael eu cofio yn ôl eu henw yn ystod yr ymbiliau. Ychwanegwch enwau at y rhestr yng nghefn Corff yr Eglwys.


Sul y Cofio

Rhowch y Cymun Bendigaid ar Gân Dros Ar Sul y Cofio 12 Tachwedd, caiff gwasanaethau Cymun corawl eu disodli gan Wasanaeth Coffa Dinesig am 10.00am, pan fydd yr Archesgob yn pregethu, ac a fydd yn diweddu wrth y Gofeb.


Bedydd Esgob

Caiff sagrafen Bedydd Esgob ei gweinidogaethu yng Ngwylnos y Pasg a Chymun Cyntaf y Pasg am 6pm ar 30 Mawrth 2024. Os hoffech chi archwilio’r posibilrwydd o gael eich Cadarnhau drwy Fedydd Esgob, siaradwch ag aelod o dîm y Gadeirlan.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

Ymunwch â ni i fwynhau’r perfformiadau cerddorol eithriadol hyn, o safon uchel ac yn rhad ac am ddim bob bore Iau.

2 Tachwedd | Martin Brown | Organ

9 Tachwedd | Callum Lee MacDonald | Corn Bariton

16 Tachwedd | Sebastian Wyss | Ffidl

23 Tachwedd | Tom Castle | Tenor

30 Tachwedd | Alice Caldwell | Pibgorn


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i dymor yr hydref. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...

One of a series of photographs by the Dutch artist, Thijs Wolzak, for the Laurenskerk in Rotterdam, offering contemporary depictions of the seven works of corporal mercy

Supporting the work of Christian Aid in the Middle East

A special retiring collection is being made this Sunday, and at the Bring & Share Lunch, to support the work of Christian Aid in the Middle East.

In the light of the atrocities in Israel on 7 October and the unfolding humanitarian crisis in Gaza, Christian Aid have requested our generous support.

Christian Aid has been working with the poorest and most vulnerable people in the Middle East since the early 1950s.

In Gaza at the moment, Christian Aid’s medical partner is providing mobile medical and psychological care. This is a local response where there is limited access, and will allow patients who’ve been discharged early from severely overcrowded hospitals to be treated at home. The mobile health clinic is providing people with access to a doctor, nurse, social worker or physiotherapist. The mobile dressing team will reach people who require wound dressings to be changed, reducing the risk of infection.

In southern Gaza, another local partner agency is responding to those most recently displaced to southern Gaza as a result of the war. They’re providing mattresses, medicines for those with chronic illnesses, and emergency food from a community kitchen for approximately 200 displaced people.

Donations may be made in cash in the baskets provided; please use a Gift Aid envelope if you are able to do so. Also, all donations made after the service from the contactless donation point will be passed on to Christian Aid.


Bring & Share Lunch

Our next Bring & Share Lunches will take place at 12.15pm, following the Choral Holy Eucharists this Sunday 29 October and on 17 December. Our Bring & Share Lunches are an opportunity for conversation, conviviality, welcome and kindness. All are invited; and if you would like suggestions about food to bring, please speak to Canon Jane Coutts.


Requiem for All Souls

Please make every effort to be present at the Choral Holy Eucharist of Requiem, at 6.00pm on Sunday 5 November, when we will mark the Commemoration of All Souls. The Eucharist will be offered for all the faithful departed; individuals will be remembered by name during the intercessions. Please add names to the list at the back of the Nave.


Remembrance Sunday

On Remembrance Sunday 12 November, our choral Eucharist services are replaced by a 10.00am Civic Remembrance Service, at which the Archbishop will preach, and which will conclude at the War Memorial.


Confirmation

The sacrament of Confirmation will be ministered at the Easter Vigil & First Eucharist of Easter at 6pm on 30 March 2024. If you would like to explore the possibility of being Confirmed, please speak to a member of the Cathedral team.


Coffee-Break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

Join us to enjoy these exceptional, high-quality and free musical performances.

2 November | Martin Brown | Organ

9 November | Callum Lee MacDonald | Baritone Horn

16 November | Sebastian Wyss | Violin

23 November | Tom Castle | Tenor

30 November | Alice Caldwell | Recorder


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to the autumn. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.