Mae Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andrew John – y yn falch o ryddhau testun ei bregeth yn yr Offeren Crism (sy’n rhan o’i flog newydd) yn ogystal â’i negeseuon Pasg.

Yn ei neges ysgrifenedig (isod), Y Gair B, mae Esgob Andy yn adfyfyrio ar effaith negyddol trafodaethau Brexit i’n cymdeithas ac yn gofyn beth y gellir ei adennill.

Yn ei neges fideo Pasg, Cod a Cherdda, mae Esgob Andy yn siarad â gŵr gweddw, Jonno Jones, yn ogystal ag ymweld â Phont ar Fynach, Abergeirw ger Trawsfynydd – safle bedd Cristion cynnar – wrth ofyn beth mae bedd gwag Iesu yn ei olygu i ni wrth ddathlu’r Pasg eleni.

Cofiwch rannu a defnyddio’r negeseuon hyn.

 

☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩

 

Y Gair B

Beth bynnag a ddaw o drafodaethau Brexit yn San Steffan a llefydd eraill, mae un peth sy’n llawer mwy amlwg na chanlyniad hyn i gyd: mae’r hyn oll wedi bod yn anodd iawn inni fel cenedl ac fel gwledydd. Nid yn gymaint ai peth da ai peidio ydy Brexit yn unig ond ein bod, fel gwladwriaeth, wedi bod yn fwy rhanedig nag unrhyw gyfnod arall dros y 70 mlynedd ddiwethaf. Mae safon y drafodaeth gyhoeddus wedi dirywio, mae lefel yr ymddiriedaeth yn ein gwleidyddion a’n sefydliadau wedi’i danseilio ac mae maint y gagendor wedi arwain at normaleiddio ideolegau brawychus o ffiaidd. Does ond rhaid edrych ar y digwyddiadau erchyll yn Seland Newydd i sylweddoli beth all ddigwydd pan fo casineb yn cael pen rhyddid.

Mae’r Beibl yn gwbl ddigyfaddawd yn ei gondemniad o’r math yma o elyniaeth. Mae geiriau megis ‘drygioni’ neu ‘dieflig’ bellach wedi colli llawer o ddyfnder eu hystyr blaenorol, ond dim o’u perthnasedd. Mae’n hen bryd adfer defnydd iaith a geiriau sy’n crisialu difrifoldeb gweithredoedd ofnadwy y ddynoliaeth, os ydyn ni am adfer parch a gwerth unigolion tuag at ei gilydd.

Fodd bynnag, dwi’n amau bod angen llawer mwy nag adfer syniadau erbyn hyn: mae angen newid calonnau a meddyliau. Nid darn o hanes yn unig ydy atgyfodiad Iesu, mae’n delio gyda’r modd mae Iesu Grist yn dod wyneb yn wyneb â ninnau rŵan, yma, heddiw. Mae’r cyfarfyddiad yma’n agor y drws i ffordd ragorach o fod yn fod dynol, lle gwelir posibiliadau trawsnewid perthynas a chydberthynas a dull llai hunanfeddiannol o fyw.

Dros y misoedd diwethaf, fe fûm yn dechrau ymweld â rhai o ffynhonnau sanctaidd hynafol yr esgobaeth – mannau lle bu pobl yn cyfarfod ac yn ceisio iachâd ers talwm. Mae gordyfiant wedi hen guddio llawer ohonyn nhw bellach nes eu bron â mynd yn angof. Fe’m hatgoffwyd am un o’r straeon llai adnabyddus yn y Beibl lle bu un o arweinwyr cynnar pobl Dduw’n ailagor ffynhonnau dŵr yfed a fu ynghau cyhyd. Diben y stori ydy dangos pa mor rhwydd mae colli ffynonellau dwfn bywyd ond bod modd eu hadfer eto.

Does dim modd inni allu troi’r cloc yn ôl i gyfnod cyn Brexit, ond fe allwn ni ail-gydio yn yr hyn sy’n ddwfn, yn fywiol ac â’r gallu i’n cynnal ninnau a’n cymunedau mewn cariad a pharch. Yn y bôn, medrwn ail-ymweld â’r gallu sydd gan Grist i wneud popeth yn newydd ac yn ein galluogi i greu cydberthnasau newydd a gwell sy’n dal ac yn ffynnu. Dyma rym a rhodd y Pasg a’r Crist atgyfodedig i ni.

 

+Andrew Bangor

 

Mae Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andrew John – yn falch i ryddhau ei negeseuon Nadolig.

Mae ei neges ysgrifenedig (isod), gyda’r pennawd ‘Haelioni’, yn edrych tuag at un dealltwriaeth Gristnogol o bres yn ystod y Nadolig

Yn ei neges fideo Nadolig (sydd ar gael yn y Gymraeg a Saesneg), mae Esgob Andy yn gofyn a oes cysylltiad rhwng newid yn yr hinsawdd a stori’r Nadolig.

Mae’Closed Captions’ (isdeitlau) ar gael wrth ddefnyddio’r botwm ‘CC’

Mae ‘na groeso i chi rannu a defnyddio’r negeseuon hyn.

 

 ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩

 

Haelioni

Braidd yn anhymorol utganodd y radio eiriau cyfarwydd o gân yr oeddwn yn ei gwybod ers blynyddoedd:

‘They say the best things in life are free 

But you can give them to the birds and bees 

I need money, that’s what I want 

That’s what I want, yeah that’s what I want.’

A oedd y canwr yn bod yn eironig? Efallai – neu efallai ddim.

Mae materion ariannol wedi dod yn gryf i ffocws eto wrth i’r flwyddyn ddod i ben. Mae penderfyniad y Llywodraeth i ddod â chynlluniau ymlaen i newid yr arian betio mwyafsymiol mewn terfynellfeydd betio ods gosodedig yn ein hatgoffa y gall y defnydd o arian fod yn ffynhonnell poen yn ogystal â daioni.

Mae safbwynt y Cristion ar arian yn aml wedi ei gamddehongli: nid yw’r Beibl yn dweud mai arian yw gwraidd pob drwg ond yn hytrach mai cariad at arian yw gwraidd pob math o ddrygioni. Mae arian yn cynorthwyo i amdiffyn y mwyaf bregus mewn cymdeithas tra bo rhoi gwerth iddo uwchlaw popeth arall yn gallu arwain at lu o broblemau o ddyled i ecsbloetio.

Neges y Nadolig yw bod Duw yn caru’r byd gyda haelioni diderfyn. Ganwyd yr Iesu i fynegi haelioni Duw sy’n dyheu am i’r holl bobl wybod am ei ofal a’i drugaredd. Mae cariad haelionus fel hyn yn hollol heintus. Unwaith y byddwn wedi ei flasu, rydym yn dechrau newid. Mae gweithredoedd hunanol yn ymddangos allan o’u lle i ni, tra bod rhannu ein cyfoeth ein hunain yn dod ychydig yn fwy naturiol.

Y Nadolig hwn byddwn yn cael cyfleoedd i ddangos ein cariad tuag at eraill gyda’r rhoddion y byddwn yn eu rhoi iddynt. A hyd yn oed os yw ein rhoi yn gymharol gymhedrol, mae’r union weithred o wneud hynny’n adleisio ychydig bach o haelioni anghyffredin Duw. Gallwn hefyd ddangos haelioni tuag at y rhai nad ydym yn eu hadnabod, drwy roi i elusennau a phrosiectau sy’n cefnogi rhai mewn angen yn ein cymunedau lleol neu ymhellach draw.

Mae’r gân, yn rhyfeddol, yn dweud rhywbeth pwysig: y gwirionedd yw bod ar bawb angen arian i fyw. A dyna’r anogaeth i haelioni – y gair ‘pawb’ hwnnw. Ac mae hynny’n golygu rhywbeth mwy a gwell a mwy anrhydeddus o lawer. Haelioni. Mae arnom angen haelioni. Megis haelioni Duw.

+Andrew Bangor

Bydd digwyddiad terfynol Gŵyl Barddoniaeth a Chelfyddydau RS Thomas eleni yn cynnwys perfformiad cyntaf darn o gerddoriaeth gan gyfansoddwraig o Fangor sydd wedi cael ei hysbrydoli gan y bardd a’r offeiriad Cymraeg enwog RS Thomas. Mae’r digwyddiad – ‘RS Thomas ar gyfer Cenhedlaeth Newydd’ – yn rhan o wasanaeth Gosber yng Nghadeirlan Bangor prynhawn Sul, Gorffennaf 1, am 2:30yp.

Bydd y cyfansoddiad o’r enw ‘Pererindodau’ gan Ellen Davies yn cael ei berfformio gan Ensemble Cymru a’r Delynores Frenhinol, Anne Denholm. Mae ‘Pererindodau’ yn waith cerddorfaol mewn tri symudiad a ysbrydolwyd gan dair o gerddi RS Thomas. Enillodd Ellen Ragoriaeth yn ei Gradd Meistr o Brifysgol Bangor am ei cyfansoddiad ’Pererindodau’.

Cyn pob symudiad cyflwynir ‘sainwedd’, sef darlleniad o’r gerdd berthnasol gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, sydd wedi’i blethu a’i gymysgu â seiniau’r môr a’r tirwedd o amgylch Aberdaron a Phenrhyn Llŷn. Ffocws gweledol y perfformiad fydd Cwrwgl traddodiadol Gymreig, a fydd yn cael ei harddangos yn y Gadeirlan cyn y perfformaid.

Mae cyflawniad Ellen yn fwy rhyfeddol oherwydd ei bod wedi goresgyn dyslecsia. Wrth edrych ymlaen at y perfformiad, dywedodd Ellen ‘Mae’r tîm o Gadeirlan Bangor wedi bod mor galonogol gyda rhai syniadau gwych am sut i lwyfannu’r digwyddiad hwn a’r arddangosfa ryngweithiol o’r Cwrwgl. Mae’n anrhydedd mawr ac yn gyffrous iawn bod fy ngwaith newydd yn cael ei berfformio yng Nghadeirlan Bangor fel rhan o ddigwyddiad olaf Gŵyl RS Thomas 2018. Rwy’n gobeithio y gallaf ddod â Llŷn i Fangor mewn ffordd fach! ‘

Eitem arall arloesol fydd Owen Lowery yn perfformio dwy o’i gerddi ei hun, a ysbrydolwyd gan RS Thomas. Ym mis Ionawr eleni, derbyniodd Owen y wobr ‘Literature Matters’ gan y Gymdeithas Llenyddiaeth Frenhinol. Mae ei waith a’i berfformiad yn fwy rhyfeddol oherwydd yn 18 oed, cafodd Owen ei barlysu o’r ysgwyddau i lawr mewn cystadleuaeth Jwdo a bellach mae angen peiriant arno er mwyn anadlu. Ar ôl dwy flynedd yn yr ysbyty, cafodd ei ysbrydoli trwy lenyddiaeth i oresgyn cyfyngiadau ei anafiadau. Pan mae’n perfformio, mae’n gwneud hynny gydag amseriad ei beiriant anadlu.

Dywedodd Susan Fogarty, Cyfarwyddwraig Cymdeithas RS Thomas a’r Ŵyl, ‘Mae’r Gymdeithas yn falch o gefnogi a chydweithio ag Ellen fel cyfansoddwraig raddedig ac ag Owen Lowery sydd yn ysbrydoliaeth gan ei fod wedi goresgyn anabledd difrifol o ganlyniad i anaf i’r asgwrn cefn i gyflawni ei lawn botensial fel bardd. Mae Ellen ac Owen yn haeddu pob cefnogaeth yn eu hymdrechion artistig.’

Hefyd bydd première byd arall gan y cyfansoddwr Americanaidd, Robert Moran, o Philadelphia. Bydd ei osodiad cerddorol newydd i gerdd adnabyddus RS Thomas ‘The Other’, yn cael ei berfformio ochr yn ochr â geiriau’r gerdd a ddarllennir gan Susan Fogarty.

Bydd cyn Esgob Bangor ac Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, a oedd â chysylltiad agos â RS Thomas yn cymryd rhan yn y gwasanaeth, lle bydd Côr Cadeirlan Bangor yn canu’r Gosber ynghyd â anthem gan William Mathias.

Mae’r gwasanaeth a’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, ond mae llefydd yn gyfyngedig. Cewch gofrestru trwy dudalen ar Eventbrite, neu dewch i’r Gadeirlan ar y prynhawn. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim diolch i haelioni Cymdeithas Frenhinol LlenyddiaethThŷ Cerdd.

 


Wrth inni ddod at ddiwedd mis Mehefin, fed down at gyfnod lle mae’r Eglwys yn dathlu bywyd a gweinidogaeth Sant Pedr, person a fu’n was mawr i Iesu, yn ogystal ag ysgogydd sefydlu’r Eglwys Gristnogol wedi atgyfodiad ac esgyniad Iesu.

Mewn gwasanaeth arbennig ar ddydd Sadwrn (30.6.18) am 3yp yng Nghadeirlan Bangor (lle mae croeso i bawb ddod), bydd Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – yn trwyddedu ac ordeinio naw o bobl, a fydd yn camu mewn ffydd yn ôl troed Sant Pedr i ddechau cam newydd yn eu taith Gristnogol.

Y pregethwr gwadd yn y gwasanaeth hwn fydd yr Arglwydd Williams o Ystumllwynarth, cyn-Archesgob Cymru a Chaergaint.

Meddai’r Parch Susan Blagden, a fu’n Diwtor arnyn nhw, yn eu cefnogi trwy gydol eu hyfforddiant unigol yn Athrofa Padarn Sant,

Mae Padarn Sant yn falch iawn bod yr ymgeiswyr hyn bellach i’w trwyddedu a’u hordeinio ar gyfer y weinidogaeth gyhoeddus.

Maen nhw wedi ymgymryd â dwy neu dair blynedd o ‘Ffurfiant mewn Cymuned ar gyfer Cenhadaeth’. Wrth gwrs, mae’r broses o ffurfiant yn un barhaus, fel y mae i bob un ohonon ni, nid y lleiaf fel disgyblion. Ar adegau bu’r broses hon yn un arbennig o heriol ac ar adegau eraill, yn wirioneddol orfoleddus, gyda doniau a galluoedd newydd yn dod i’r wyneb ac yn cael eu cydnabod.

Hyderwn y bydd y broses o adnewyddiad a thrawsnewidiad yn mynd yn ei blaen. Yn y cyfamser, dewch inni lawenhau gyda’r ymgeiswyr a’u sicrhau nhw o’n gweddïau.

Bydd y gwasanaeth dan arweiniad Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – a ddywedodd,

Mae pob gweinidogaeth yn cynnwys elfennau o her a chyfle. Rydyn ni wrth ein bodd bod yr Esgobaeth yn parhau i ddirnad galwad Duw ar bobl ar i’r weinidogaeth leyg ac ordeiniedig drwyddedig.

‘Fe fydd hi’n ddiwrnod arbennig i Glenys ac Ian wrth iddyn nhw gael eu trwyddedu fel Darllenwyr Lleyg; i Vince, Simon a Nick wrth gael eu hordeinio’n Ddiaconiaid, yn ogystal ag i Lesley, Sara, Allan a Llewelyn wrth gael eu hordeinio fel Offeiriaid. Cofiwn amdanyn nhw mewn cariad ac yn ein gweddïau.

Dangosodd Sant Pedr ddewrder a dyfalbarhad wrth wasanaethu Iesu a chyhoeddi’r Efengyl. Fy ngweddi innau ydy y bydd Duw’n darparu’r un dewrder a dycnwch hwnnw i’r naw person arbennig hyn sy’n fraint imi gael eu galw’n gyd-weision yng Nghrist.


Dyma’r naw person a fydd yn cael eu trwyddedu neu eu hordeinio:

Darllenwyr Lleyg :

  • Glenys Samson a fydd yn gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Cybi (Caergybi)
  • Ian Hampson a fydd yn gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Moelwyn (Blaenau Ffestiniog/Penrhyndeudraeth)

Diaconiaid :

  • Mr. Simon Freeman (trosiannol*, cyflogedig) a fydd yn gwasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr (Betws-y-coed)
  • Mr. Nick Golding (neilltuol*, digyflog) a fydd yn gwasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Eifionydd (Cricieth/Porthmadog)
  • Mr. Vince Morris (trosiannol*, cyflogedig) a fydd yn gwasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio (Porthaethwy/Benllech)

(*Rhywun sydd wedi profi galwad i fod yn Ddiacon yn unig ydy diacon neilltuol. Diacon trosiannol ydy rhywun sydd wedi profi galwad i’r offeiriadaeth, ac mae ordeinio fel diacon yn rhan o’u taith .)


Offeiriaid :

  • Parch Llewelyn Moules-Jones (cyflogedig) a fydd yn parhau i wasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol (Bangor)
  • Parch Lesley Rendle (digyflog) a fydd yn gwasanaethu ei churadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio (Porthaethwy/Benllech)
  • Parch Sara Roberts (cyflogedig) a fydd yn symud o Fro Enlli i barhau ei churadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Madryn (Nefyn)
  • Parch Allan Wilcox (digyflog) a fydd yn parhau i wasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Eryri (Llanberis)

Cliciwch yma i ddarllen ychydig sylwadau gan bob un o’n hymgeiswyr, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer cyfnod newydd eu pererindod Gristnogol.

Mae Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andrew John – yn falch o ryddhau ei negeseuon Pasg eleni.

Mae neges ysgrifenedig (isod) Esgob Andy, Anghenfilo Llai, Gobeithio Mwy yn fyfyrdod ar stori’r Pasg yng ngoleuni trolio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Wrth ffilmio ei neges fideo ar gyfer y Pasg, Hardd ond Milain (a drafodir yn Saesneg), aeth Esgob Andy ar daith i Ynys Enlli, sy’n dwy filltir o Aberdaron ar waelod Pen Llŷn ac mae ‘taith’ yn thema y mae’n ei archwilio.

 

Rhannwch a defnyddiwch y negeseuon hyn, os gwelwch yn dda:

Dolen y fideo : https://vimeo.com/261914011

Dolen y Neges ysgrifenedig :  http://esban.net/negespasg2018

Dolen Facebookhttps://www.facebook.com/Bangor546/posts/2083244505037697

Dolen Trydar : https://twitter.com/EsgobaethBangor/status/978593714099703814

 

 

 


 

 

Angenfilo Llai, Gobeithio Mwy

Mae enghreifftiau diweddar o drolio ar y cyfryngau cymdeithasol eto’n codi cwestiynau am y graddau y mae’r llwyfan yn dangos ymddygiad dynol ar ei waethaf yn hytrach nag unrhywbeth fel ei orau. Gall hyd yn oed rhyngweithio doniol a diniwed wahodd dirmyg, gwatwar a difenwi. A yw’n unrhyw ryfeddod bod y gair ‘anghenfil’ wedi dod yn ferf i ddisgrifio sut i iselhau a dinistrio? Pan gaiff unigolion eu llarpio o bellter diogel anhysbysrwydd ar lein, maent mewn gwirionedd yn cael eu ‘hanghenfilo’.

Rwyf yn fy nghael fy hun yn myfyrio ar hanes y Pasg eleni gyda llygaid newydd o ganlyniad. Mae dal dyn a’i fwystfilo’n gorfforol yn un o’r ffurfiau o arteithio mwyaf arswydus a dirdynnol sy’n adnabyddus i ddynolryw. Ond mae’r cymhellion a’r uchelgeision a arweiniodd at y llofruddiaeth hwn hyd yn oed yn fwy arswydus. Nid yw’n ddigon i ddiffodd unrhyw fygythiad a osododd, mae’n rhaid ei wawdio, ei barodïo, ei ddarostwng ac yn y diwedd ei anghenfilo gan brawf ffug, ei ddadwisgo ac yn y diwedd ei groeshoelio.

Pe bai hyn yn nodi diwedd y mater, byddai wedi bod yn dorcalonnus iawn. Ond pan fu i’r rhai a welodd yr Iesu ar fore’r Pasg adrodd eu hanes, nid yn unig y ffaith nad oedd mewn beddrod mwyach ydoedd. Dywedasant sut, yn fyw drachefn, y newidiodd eu bywydau, agorodd iddynt ffordd a oedd yn wahanol, yn fwy cyflawn ac yn fwy real. Ni ddywedodd y byddai bywyd yn wely o rosynnau nac na fyddent yn parhau i ymdrechu, ond dangosodd iddynt realiti eu bywydau, yr hyn a oedd yn eu calonnau ac yna sut i gael eu ffurfio gan Dduw na threchir gan angau.

A hyn sy’n gwneud y Pasg yn amser o obaith. Mae’n neges y gall fy mywyd i, a’ch un chithau gael ei newid a’i farcio lai gan faw siniciaeth foel. Yr hyn a gynigir yw ffordd o fod yn ddynol ac yn real, sy’n ein codi uwchlaw hyn. A phan gofleidir bywyd i gyd yn y ffordd hon, nid yw’n llai anarferol na’r hyn a ddigwyddodd mewn beddrod gardd 2000 o flynyddoedd yn ôl.

+Andrew Bangor

 

Ar ddydd Sadwrn 24ain Chwefror, cynhaliwyd dathliad o Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn y Gadeirlan gyda dau gant o westeion. Roedd y gwesteion yn cynnwys Maer Bangor, y Cynghorydd Derek Hainge, a Chyfarwyddwr Sefydliad Confucius, Dr David Joyner.

Roedd y Gadeirlan yn llawn a mwynheuodd pawb parêd o ddreigiau, gwisgoedd lliwgar a hyd yn oed panda a aeth o gwmpas y ddinas.

Dilynwyd hyn gyda dros awr o gerddoriaeth, dawns, crefftau ymladd a drama, a berfformiwyd gan bobl ifanc ac eraill.

Dywedodd Canon Nathan Jarvis, Caplan yr Eglwys yng Nghymru i Brifysgol Bangor, ‘Roedd hi’n ddiwrnod gwych yn llawn y dalent mwyaf rhyfeddol a chyfle gwych i’r ddinas ddod at ei gilydd yn ein Cadeirlan hynafol. Mae gennym gymaint o dalent ym Mangor ac roedd hwn yn ffordd wych o arddangos diwylliant Tsieineaidd.’

Mae Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andrew John – yn falch i ryddhau ei negeseuon Nadolig.
 
Mae ei neges ysgrifenedig (isod) yn dwyn y penawd #hysbysgorau ac  yn cyfeirio at ddau hysbyseb Nadolig poblogaidd a’r mannau annisgwyl lle ganfyddir Duw.
 
Mae ei neges fideo Nadolig (a drafodir yn Saesneg), a saethwyd yng Nghaernarfon a Bangor, yn cynnwys ffocws ar rôl banciau bwyd yn ystod tymor y Nadolig.
 
Mae ‘na groeso i chi rannu a defnyddio’r negeseuon hyn.
Gwelwch ein gwefan esgobaethol newydd : bangor.eglwysyngnghymru.org.uk
 
 
– – – – – – – – – – – 
 
#hysbysgorau
 
Bellach mae hi’n mynd yn dipyn o gystadleuaeth i ennill  anrhydedd ‘hysbyseb gorau’ y Nadolig
 
Unwaith eto, John Lewis oedd ar flaen y gad gyda #MozTheMonster , gan gyflwyno’r frawddeg ‘Am roddion sy’n goleuo’u byd’ i bwysleisio’u neges. Faswn i’n herio unrhyw un i’w wylio heb wenu.
 
Fodd bynnag, i mi, yr enillydd heb os ydy busnes bach mewn tref yng nghanolbarth Cymru: Hafod Hardware o Raeadr Gwy, Powys, gyda’u hysbyseb ‘Rhannu hud y Nadolig hwn’. Mae’r fideo yn dilyn ymdrechion gŵr ifanc ar ei feic modur i ddosbarthu anrhegion cyn y diwrnod mawr a’r blinder affwysol a brofodd fel canlyniad i’w waith trylwyr. Ar ddiwedd y dydd mae’n syrthio i drwmgwsg, gan ddeffro i ganfod fod rhywun eisoes wedi lapio’i anrhegion yntau i gyd. Mae Nadolig y gŵr yma’n dechrau o ddifrif wrth i’w fabi gropian i’r golwg, gan rannu llawenydd a chyffro’r eiliad honno.
 
Mae’n ymddangos fod gwobrwyo siop fach ddi-nod yn Rhaeadr Gwy yn enghraifft arall o lwyddiant Dafydd yn erbyn Goliath y busnesau mawrion. 
 
Mae’n werth nodi bod rhywbeth tebyg wedi digwydd adeg geni Iesu, a hynny yn un o bentrefi bach tawelach Palestina. Doedd gan brysurdeb byd yn llawn pwysigrwydd ei hymerodraethau a’i Chesar ddim amser i wastraffu ar gwmwd cysglyd Bethlehem. Roedd yr hyn a ddigwyddodd yn anweledig i lawer a daeth i sylw fawr o neb – a doedd y rhai fu’n ymweld ddim yn rhai y gellid eu galw’n wahoddedigion dewisol – gwarchodwyr defaid a’r math o bobl na fyddai fel arfer yn glanio ar eich stepan drws i ddathlu achlysur y ganrif.
 
Ond dyma’r holl bwynt, wrth gwrs. Pan fo Duw’n cyrraedd, ddylech chi ddim disgwyl chwilio amdano ym mhalasau brenhinol ac ymysg y mawrion a’r hunangyfiawn. Nid dyna ffordd Duw. Mae gofyn ichi edrych yn llefydd annisgwyl ac ymysg y rhai sydd gyrion cymdeithas, oherwydd, rhywsut, yn y mannau hynny mae Duw’n dueddol o ymddangos pob tro. Pan ddown i ddarganfod Duw yn y modd yma, clywir angylion yn dal i seinio’u cân. 
 
Ond mae rheswm arall pam, i mi, bod hysbyseb yr Hafod yn haeddu’r wobr: eu pennawd sy’n ei gwneud hi, ac yn fy meddwl i, gall fod yn fodd i’n hatgoffa o wir ystyr genedigaeth Iesu heddiw, fel bryd hynny: ‘Rhannu hud y Nadolig hwn’. Fy ngweddi i ydy y cewch chithau hefyd ddarganfod rhywbeth o’r hud hwnnw ynghanol eich dathliadau chi. 
 
Hoffwn ddymuno Nadolig llawen iawn ichi i gyd.
 
+Andrew Bangor

Yn 2015, fe lansiodd Esgobaeth Bangor ac Esgobaethau Unedig Míth a Chil Dara (Meath & Kildare) yn Eglwys Iwerddon ddolen bartneriaeth.

Yr wythnos hon, bydd clerigion y ddwy esgobaeth yn ymuno â’i gilydd am gynhadledd ddeuddydd yn Llandudno. Cyn cyrhaeddiad ein hymwelwyr o’r Iwerddon, fe ofynnon ni i Esgob Míth a Chil Dara , y Parchedicaf Pat Storey, ychydig o gwestiynau ynglŷn â’i hesgobaeth a’r cyswllt rhwng esgobaethau yn yr Iwerddon a Chymru.

 

☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩

 

Esgob Pat, fedrwch chi ddweud wrthon ni am eich Esgobaeth yn Míth a Chil Dara?

Mae Esgobaeth Míth a Chil Dara wedi’i lleoli o amgylch Canolbarth Gweriniaeth Iwerddon , gan grwydro i mewn ac allan o sawl talaith, o Dún an Ri (Kingscourt) yn y gogledd, i Baile Átha Luain (Athlone) yn y gorllewin, a Móinteach Mílic (Mountmellick) yn y de.

Ceir dau ar bymtheg o blwyfi ac ysgol uwchradd brysur Eglwys Iwerddon, gydag oddeutu 25 o glerigwyr sydd un ai’n gweinidogaethu’n llawn amser neu’n anghyflogedig. Gan ei bod yn ardal eang yn ddaearyddol a chyn lleied o glerigwyr llawn amser, rydyn ni’n dibynnu’n helaeth iawn ar griw ffyddlon iawn o ddarllenwyr esgobaethol a chlerigwyr wedi ymddeol.

Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, datgelwyd o fysg esgobaethau’r Eglwys Iwerddon, bod oddeutu 15% o’r rhai a oedd yn honni bod yn Eglwys Iwerddon yn mynychu’n rheolaidd – felly mae llawer o waith i’w wneud?! Mae gan y rhan fwyaf o’r plwyfi yn yr esgobaeth ysgol gynradd Eglwys Iwerddon ynghlwm â’r plwyf.

Unwyd Esgobaethau an Míth a Chil Dara ym 1976. Ydy hynny’n golygu bod yr Esgobaeth bellach yn gweithredu fel un esgobaeth, neu a oes gwahaniaethau’n parhau o fewn eich Esgobaeth?

Unwyd Esgobaeth Míth a Chil Dara  ym 1976, ac mae bellach yn uniad clos iawn, er iddi gymryd amser i’r cymathu ddigwydd ar y pryd. Yn y trafodaethau ynglŷn â newid ffiniau esgobaethau yn y Synod Cyffredinol, roedd Míth a Chil Dara  yn bendant iawn eu bod am aros gyda’i gilydd a pheidio â chael eu gwahanu, wedi gweithio mor gale di berthyn i’w gilydd. Ceir dwy gadeirlan – yn nhref Cill Dara ac yn Baile Átha Troim (Trim) – ac mae’r esgobaeth bellach yn gweithredu i raddau helaeth fel un uned.

Mae’r teitl ‘Y Parchedicaf’ yn deillio o’r hen ddyddiau’r Uchel Frenhinoedd yn Iwerddon. Y gred ydy, oherwydd ei daearyddiaeth heb fod yn bell o Ard Mhacha (Armagh) a Dulyn, y dynodwyd an Mhi y drydedd esgobaeth bwysicaf yn Iwerddon a rhoddwyd y teitl ‘Y Parchedicaf’ i’r esgob gan un o uchel frenhinoedd Iwerddon.

 

Beth ydy agweddau positif bywyd yn eich Esgobaeth, y byddwch yn diolch i Dduw amdanyn nhw?

Mae Míth a Chil Dara yn esgobaeth hapus iawn, ac rydyn ni i gyd yn ddiolchgar iawn am hynny. Oherwydd y ffaith nad oes llawer ohonon ni, does dim lle nac yn wir chwant am raniadau neu ymladd mewnol ymysg ein gilydd. Mae hynny’n beth cadarnhaol iawn.

Rydyn ni’n byw mewn rhan brydferth o ynys Iwerddon. Mae pobl yn gynnes, agored, ac yn ddiolchgar am eu clerigwyr. Maen nhw’n gwerthfawrogi ac yn ceisio arweiniad ysbrydol. Mae’r esgobaeth wedi treulio ychydig o flynyddoedd erbyn hyn yn sefydlu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ynghyd â rhai blaenoriaethau, er mwyn gwreiddio’r weledigaeth honno’n gadarn yn y tir.

Ein gweledigaeth ydy ‘gyda’n gilydd yng nghariad Duw, yn trawsnewid bywydau’.

Ein tair blaenoriaeth ydy: bod yn ddisgyblion; darpariaeth gweinidogaeth i’r dyfodol, a phrosiect cyfiawnder cymdeithasol esgobaethol.

Hyd yn hyn rydyn ni wedi cynnal Cwrs Pererinion (bod yn ddisgybl), prosiect llwyddiannus iawn yn ymwneud ag atal y gwahanglwyf (cyfiawnder cymdeithasol), ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ddarpariaeth y weinidogaeth i’r dyfodol (gan edrych ar weinidogaeth leol ordeiniedig), ac rydyn ni’n cynnal adolygiad llawn o’r esgobaeth yn 2018.

Mae pawb yn wynebu heriau! Beth ydy’r prif heriau i’ch Esgobaeth ar hyn o bryd?

Dydyn ni ddim gwahanol i unrhyw le arall – dydy’n niferoedd ni ddim mor gryf ag yr hoffen ni’u gweld ac mae’r Iwerddon yn mynd yn fwyfwy secwlar. Rydyn ni’n cynrychioli 3% yn unig o boblogaeth y Weriniaeth, ac mae hynny ynddo’i hun yn cyflwyno heriau. Sut fedrwch chi gynnal a chadw eich hunaniaeth, yn enwedig pan fo’r cenedlaethau iau mewn ‘priodasau cymysg’ neu wedi ymwrthod â hunaniaeth Gristnogol yn gyfangwbl?

Mae’n debygol bod ein prif heriau’n cael eu rhannu o amgylch esgobaethau deheuol gwledig Eglwys Iwerddon: secwlariaeth gynyddol; cynnal a chadw’r genhedlaeth nesaf; litwrgi ac addoliad creadigol; calon dros estyn allan ac efengylu; ceisio ymwrthod â dim mwy na rheoli dirywiad.

 

Ers lansio’r ddolen gyswllt rhwng ein Hesgobaethau yn 2015, bu tîm o Fangor yn ymweld ag Míth a Chil Dara, a chafwyd penwythnos ieuenctid ar y cyd yng Nghaergybi eleni, ymysg pethau eraill. Beth ydy eich gobeithio am y cyswllt yma rhwng ein Hesgobaethau?

Y gobaith ydy y gwnawn ni ddysgu oddi wrth ein gilydd ac annog ein gilydd, a bod gynnon ni, hyd yn oed, rhywbeth hefyd i’w gynnig! Mae perthynas neilltuol yn datblygu pan fo dwy esgobaeth yn treulio amser yn dod i nabod ei gilydd, rhannu rhai pethau sy’n gyffredin a hefyd dysgu sut y gallen ni ddelio’n wahanol â’r llawenydd a’n tristwch sy’n dod i’n rhan.

Mae’r amser a dreulir ynghyd yn bwysig, er bod llyn go sylweddol rhyngddon ni, ond fy ngobaith ydy bod modd inni ddod at ein gilydd o leiaf unwaith neu ddwy’r flwyddyn i gael rhannu ein bywydau a’n gweinidogaethau â’n gilydd fel y medrwn ni, naill ochr i’r Môr Celtaidd, dyfu’n well pobl a gweinidogion mwy ffyddlon o’r Efengyl.

A oes gynnoch chi hoff gân addoliad neu emyn?

Dwi wrth fy modd gyda chân Matt Redman, ’10,000 Achos’, yn syml oherwydd mod i’n berson diolchgar. Dwi’n teimlo imi gael fy mendithio’n fawr ac ar y dyddiau gorau, fe alla i gael hyd i 10,000 achos neu reswm i deimlo fy mod yn wirioneddol ffodus.

Fy hoff emyn traddodiadol ydy O the deep, deep love of Jesus’. Mae’r geiriau yn anhygoel – doed dim angen dweud mwy!

 

Ac yn olaf, Esgob Pat, tybed a hoffech chi rannu adnod neu ddarn o’r Beibl gyda ni, efallai rhywbeth rydych chi’n myfyrio arno ar hyn o bryd?

Mae Eseia 50.4 bob amser wedi bod yn adnod sydd wedi aros gyda mi ac sy’n fy herio:

‘Rhoddodd fy Meistr, yr ARGLWYDD, dafod i mi siarad ar ei ran;

dw i wedi dysgu sut i gysuro’r blinedig.’

Dyna ichi her sy’n cael ei osod inni! Nid doniau inni ddefnyddio i’n defnydd ein hunain a gawson ni, ond i sicrhau bod bywydau eraill yn well o fod wedi bod yn ein cwmni. Mae hynny yn ymdrech barhaus gen i yn fy mywyd a’m gweinidogaeth fy hun. Ambell ddiwrnod, fe fydda i’n teimlo mod i’n ennill y frwydr honno, a dyddiau eraill… dwi’n sylweddoli pa mor feidrol ydw i!

Diolch o galon, Esgob Pat.

Heddiw (Dydd Iau, Tachwedd 9, 2017) fe welir agor Ysgol Cybi, ysgol gynradd newydd yr Eglwys yng Nghymru, i wasanaethu Caergybi. Agorodd yr ysgol ei giatiau i ddisgyblion am y tro cyntaf ym mis Medi, ond heddiw gwelir yr agoriad swyddogol gan Kirsty Williams – Ysgrifennydd Addysg Cabinet Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r seremonïau agoriadol, bendithiwyd adeiladau’r ysgol gan Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John.

Mae Ysgol Cybi wedi’i datblygu ar safle hen Ysgol Cybi yng Nghaergybi. Mae’n gwasanaethu dalgylch a wasanaethwyd yn flaenorol gan 3 ysgol – Ysgol y Parchedig Thomas Ellis, Ysgol y Parc ac Ysgol Llaingoch. Gyda lle i 540 o ddisgyblion, yn ogystal â 76 o leoedd meithrin, Ysgol Cybi bellach ydy ysgol gynradd fwyaf yr Eglwys yng Nghymru yng Ngogledd Cymru. Y Pennaeth ydy Mr. Trystan Roberts, a fu’n gynt yn Bennaeth Ysgol Kingsland, un arall o ysgolion cynradd Caergybi.

Wrth wneud sylw ar agoriad Ysgol Cybi, meddai Mrs Anest Gray Frazer – Cyfarwyddwr Addysg ac Ymgysylltu Esgobaeth Bangor, ‘Mae hi wedi cymryd bron i 8 mlynedd inni gyrraedd y fan hyn – ysgol eglwys newydd gyntaf Esgobaeth Bangor ers 1994. Mae’r Esgobaeth wrth ei bodd i fod wedi gallu gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn i sicrhau bod ad-drefnu ysgolion wedi llwyddo i gadw darpariaeth gynradd ysgol eglwys yng Nghaergybi. Mae’r Cyngor a Llywodraeth Cynulliad Cymru bellach wedi cyflenwi adeilad addysgol sy’n bendant yn barod ar gyfer gofynion addysg disgyblion Ysgol Cybi yn yr 21ain ganrif. Fe fydd hi’n gyffrous iawn i weld yr ysgol yn datblygu fel cymuned, yn ogystal ag ysgol Eglwys.’

Dywedodd y Gwir Barchedig Andrew John, Esgob Bangor, ‘Mae hi wedi bod yn fraint i gymryd rhan yn y seremoni heddiw ac i fendithio’r gymdeithas ysgol newydd hon yn ei hadeilad ysgol newydd. Mae adeiladu cymuned yn golygu datblygu pobl a pherthnasau, a’m gobaith a’m gweddi innau ydy y bydd Ysgol Cybi’n medru adeiladu ar lwyddiannau a chryfderau’r ysgolion a aeth o’i blaen, gan ddod yn gymuned Gristnogol go iawn sy’n estyn allan ac yn galluogi pob un o’i disgyblion i gyflawni’r potensial mae Duw’n ei gynnig iddyn nhw.’

Llywodraethwyr Ysgol Cybi