Negeseuon Pasg Esgob Andy 2019

Mae Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andrew John – y yn falch o ryddhau testun ei bregeth yn yr Offeren Crism (sy’n rhan o’i flog newydd) yn ogystal â’i negeseuon Pasg.

Yn ei neges ysgrifenedig (isod), Y Gair B, mae Esgob Andy yn adfyfyrio ar effaith negyddol trafodaethau Brexit i’n cymdeithas ac yn gofyn beth y gellir ei adennill.

Yn ei neges fideo Pasg, Cod a Cherdda, mae Esgob Andy yn siarad â gŵr gweddw, Jonno Jones, yn ogystal ag ymweld â Phont ar Fynach, Abergeirw ger Trawsfynydd – safle bedd Cristion cynnar – wrth ofyn beth mae bedd gwag Iesu yn ei olygu i ni wrth ddathlu’r Pasg eleni.

Cofiwch rannu a defnyddio’r negeseuon hyn.

 

☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩ ☩

 

Y Gair B

Beth bynnag a ddaw o drafodaethau Brexit yn San Steffan a llefydd eraill, mae un peth sy’n llawer mwy amlwg na chanlyniad hyn i gyd: mae’r hyn oll wedi bod yn anodd iawn inni fel cenedl ac fel gwledydd. Nid yn gymaint ai peth da ai peidio ydy Brexit yn unig ond ein bod, fel gwladwriaeth, wedi bod yn fwy rhanedig nag unrhyw gyfnod arall dros y 70 mlynedd ddiwethaf. Mae safon y drafodaeth gyhoeddus wedi dirywio, mae lefel yr ymddiriedaeth yn ein gwleidyddion a’n sefydliadau wedi’i danseilio ac mae maint y gagendor wedi arwain at normaleiddio ideolegau brawychus o ffiaidd. Does ond rhaid edrych ar y digwyddiadau erchyll yn Seland Newydd i sylweddoli beth all ddigwydd pan fo casineb yn cael pen rhyddid.

Mae’r Beibl yn gwbl ddigyfaddawd yn ei gondemniad o’r math yma o elyniaeth. Mae geiriau megis ‘drygioni’ neu ‘dieflig’ bellach wedi colli llawer o ddyfnder eu hystyr blaenorol, ond dim o’u perthnasedd. Mae’n hen bryd adfer defnydd iaith a geiriau sy’n crisialu difrifoldeb gweithredoedd ofnadwy y ddynoliaeth, os ydyn ni am adfer parch a gwerth unigolion tuag at ei gilydd.

Fodd bynnag, dwi’n amau bod angen llawer mwy nag adfer syniadau erbyn hyn: mae angen newid calonnau a meddyliau. Nid darn o hanes yn unig ydy atgyfodiad Iesu, mae’n delio gyda’r modd mae Iesu Grist yn dod wyneb yn wyneb â ninnau rŵan, yma, heddiw. Mae’r cyfarfyddiad yma’n agor y drws i ffordd ragorach o fod yn fod dynol, lle gwelir posibiliadau trawsnewid perthynas a chydberthynas a dull llai hunanfeddiannol o fyw.

Dros y misoedd diwethaf, fe fûm yn dechrau ymweld â rhai o ffynhonnau sanctaidd hynafol yr esgobaeth – mannau lle bu pobl yn cyfarfod ac yn ceisio iachâd ers talwm. Mae gordyfiant wedi hen guddio llawer ohonyn nhw bellach nes eu bron â mynd yn angof. Fe’m hatgoffwyd am un o’r straeon llai adnabyddus yn y Beibl lle bu un o arweinwyr cynnar pobl Dduw’n ailagor ffynhonnau dŵr yfed a fu ynghau cyhyd. Diben y stori ydy dangos pa mor rhwydd mae colli ffynonellau dwfn bywyd ond bod modd eu hadfer eto.

Does dim modd inni allu troi’r cloc yn ôl i gyfnod cyn Brexit, ond fe allwn ni ail-gydio yn yr hyn sy’n ddwfn, yn fywiol ac â’r gallu i’n cynnal ninnau a’n cymunedau mewn cariad a pharch. Yn y bôn, medrwn ail-ymweld â’r gallu sydd gan Grist i wneud popeth yn newydd ac yn ein galluogi i greu cydberthnasau newydd a gwell sy’n dal ac yn ffynnu. Dyma rym a rhodd y Pasg a’r Crist atgyfodedig i ni.

 

+Andrew Bangor