Holi ac Ateb : Esgob Míth a Chil Dara, Pat Storey

Yn 2015, fe lansiodd Esgobaeth Bangor ac Esgobaethau Unedig Míth a Chil Dara (Meath & Kildare) yn Eglwys Iwerddon ddolen bartneriaeth.

Yr wythnos hon, bydd clerigion y ddwy esgobaeth yn ymuno â’i gilydd am gynhadledd ddeuddydd yn Llandudno. Cyn cyrhaeddiad ein hymwelwyr o’r Iwerddon, fe ofynnon ni i Esgob Míth a Chil Dara , y Parchedicaf Pat Storey, ychydig o gwestiynau ynglŷn â’i hesgobaeth a’r cyswllt rhwng esgobaethau yn yr Iwerddon a Chymru.

 

☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩  ☩

 

Esgob Pat, fedrwch chi ddweud wrthon ni am eich Esgobaeth yn Míth a Chil Dara?

Mae Esgobaeth Míth a Chil Dara wedi’i lleoli o amgylch Canolbarth Gweriniaeth Iwerddon , gan grwydro i mewn ac allan o sawl talaith, o Dún an Ri (Kingscourt) yn y gogledd, i Baile Átha Luain (Athlone) yn y gorllewin, a Móinteach Mílic (Mountmellick) yn y de.

Ceir dau ar bymtheg o blwyfi ac ysgol uwchradd brysur Eglwys Iwerddon, gydag oddeutu 25 o glerigwyr sydd un ai’n gweinidogaethu’n llawn amser neu’n anghyflogedig. Gan ei bod yn ardal eang yn ddaearyddol a chyn lleied o glerigwyr llawn amser, rydyn ni’n dibynnu’n helaeth iawn ar griw ffyddlon iawn o ddarllenwyr esgobaethol a chlerigwyr wedi ymddeol.

Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, datgelwyd o fysg esgobaethau’r Eglwys Iwerddon, bod oddeutu 15% o’r rhai a oedd yn honni bod yn Eglwys Iwerddon yn mynychu’n rheolaidd – felly mae llawer o waith i’w wneud?! Mae gan y rhan fwyaf o’r plwyfi yn yr esgobaeth ysgol gynradd Eglwys Iwerddon ynghlwm â’r plwyf.

Unwyd Esgobaethau an Míth a Chil Dara ym 1976. Ydy hynny’n golygu bod yr Esgobaeth bellach yn gweithredu fel un esgobaeth, neu a oes gwahaniaethau’n parhau o fewn eich Esgobaeth?

Unwyd Esgobaeth Míth a Chil Dara  ym 1976, ac mae bellach yn uniad clos iawn, er iddi gymryd amser i’r cymathu ddigwydd ar y pryd. Yn y trafodaethau ynglŷn â newid ffiniau esgobaethau yn y Synod Cyffredinol, roedd Míth a Chil Dara  yn bendant iawn eu bod am aros gyda’i gilydd a pheidio â chael eu gwahanu, wedi gweithio mor gale di berthyn i’w gilydd. Ceir dwy gadeirlan – yn nhref Cill Dara ac yn Baile Átha Troim (Trim) – ac mae’r esgobaeth bellach yn gweithredu i raddau helaeth fel un uned.

Mae’r teitl ‘Y Parchedicaf’ yn deillio o’r hen ddyddiau’r Uchel Frenhinoedd yn Iwerddon. Y gred ydy, oherwydd ei daearyddiaeth heb fod yn bell o Ard Mhacha (Armagh) a Dulyn, y dynodwyd an Mhi y drydedd esgobaeth bwysicaf yn Iwerddon a rhoddwyd y teitl ‘Y Parchedicaf’ i’r esgob gan un o uchel frenhinoedd Iwerddon.

 

Beth ydy agweddau positif bywyd yn eich Esgobaeth, y byddwch yn diolch i Dduw amdanyn nhw?

Mae Míth a Chil Dara yn esgobaeth hapus iawn, ac rydyn ni i gyd yn ddiolchgar iawn am hynny. Oherwydd y ffaith nad oes llawer ohonon ni, does dim lle nac yn wir chwant am raniadau neu ymladd mewnol ymysg ein gilydd. Mae hynny’n beth cadarnhaol iawn.

Rydyn ni’n byw mewn rhan brydferth o ynys Iwerddon. Mae pobl yn gynnes, agored, ac yn ddiolchgar am eu clerigwyr. Maen nhw’n gwerthfawrogi ac yn ceisio arweiniad ysbrydol. Mae’r esgobaeth wedi treulio ychydig o flynyddoedd erbyn hyn yn sefydlu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ynghyd â rhai blaenoriaethau, er mwyn gwreiddio’r weledigaeth honno’n gadarn yn y tir.

Ein gweledigaeth ydy ‘gyda’n gilydd yng nghariad Duw, yn trawsnewid bywydau’.

Ein tair blaenoriaeth ydy: bod yn ddisgyblion; darpariaeth gweinidogaeth i’r dyfodol, a phrosiect cyfiawnder cymdeithasol esgobaethol.

Hyd yn hyn rydyn ni wedi cynnal Cwrs Pererinion (bod yn ddisgybl), prosiect llwyddiannus iawn yn ymwneud ag atal y gwahanglwyf (cyfiawnder cymdeithasol), ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ddarpariaeth y weinidogaeth i’r dyfodol (gan edrych ar weinidogaeth leol ordeiniedig), ac rydyn ni’n cynnal adolygiad llawn o’r esgobaeth yn 2018.

Mae pawb yn wynebu heriau! Beth ydy’r prif heriau i’ch Esgobaeth ar hyn o bryd?

Dydyn ni ddim gwahanol i unrhyw le arall – dydy’n niferoedd ni ddim mor gryf ag yr hoffen ni’u gweld ac mae’r Iwerddon yn mynd yn fwyfwy secwlar. Rydyn ni’n cynrychioli 3% yn unig o boblogaeth y Weriniaeth, ac mae hynny ynddo’i hun yn cyflwyno heriau. Sut fedrwch chi gynnal a chadw eich hunaniaeth, yn enwedig pan fo’r cenedlaethau iau mewn ‘priodasau cymysg’ neu wedi ymwrthod â hunaniaeth Gristnogol yn gyfangwbl?

Mae’n debygol bod ein prif heriau’n cael eu rhannu o amgylch esgobaethau deheuol gwledig Eglwys Iwerddon: secwlariaeth gynyddol; cynnal a chadw’r genhedlaeth nesaf; litwrgi ac addoliad creadigol; calon dros estyn allan ac efengylu; ceisio ymwrthod â dim mwy na rheoli dirywiad.

 

Ers lansio’r ddolen gyswllt rhwng ein Hesgobaethau yn 2015, bu tîm o Fangor yn ymweld ag Míth a Chil Dara, a chafwyd penwythnos ieuenctid ar y cyd yng Nghaergybi eleni, ymysg pethau eraill. Beth ydy eich gobeithio am y cyswllt yma rhwng ein Hesgobaethau?

Y gobaith ydy y gwnawn ni ddysgu oddi wrth ein gilydd ac annog ein gilydd, a bod gynnon ni, hyd yn oed, rhywbeth hefyd i’w gynnig! Mae perthynas neilltuol yn datblygu pan fo dwy esgobaeth yn treulio amser yn dod i nabod ei gilydd, rhannu rhai pethau sy’n gyffredin a hefyd dysgu sut y gallen ni ddelio’n wahanol â’r llawenydd a’n tristwch sy’n dod i’n rhan.

Mae’r amser a dreulir ynghyd yn bwysig, er bod llyn go sylweddol rhyngddon ni, ond fy ngobaith ydy bod modd inni ddod at ein gilydd o leiaf unwaith neu ddwy’r flwyddyn i gael rhannu ein bywydau a’n gweinidogaethau â’n gilydd fel y medrwn ni, naill ochr i’r Môr Celtaidd, dyfu’n well pobl a gweinidogion mwy ffyddlon o’r Efengyl.

A oes gynnoch chi hoff gân addoliad neu emyn?

Dwi wrth fy modd gyda chân Matt Redman, ’10,000 Achos’, yn syml oherwydd mod i’n berson diolchgar. Dwi’n teimlo imi gael fy mendithio’n fawr ac ar y dyddiau gorau, fe alla i gael hyd i 10,000 achos neu reswm i deimlo fy mod yn wirioneddol ffodus.

Fy hoff emyn traddodiadol ydy O the deep, deep love of Jesus’. Mae’r geiriau yn anhygoel – doed dim angen dweud mwy!

 

Ac yn olaf, Esgob Pat, tybed a hoffech chi rannu adnod neu ddarn o’r Beibl gyda ni, efallai rhywbeth rydych chi’n myfyrio arno ar hyn o bryd?

Mae Eseia 50.4 bob amser wedi bod yn adnod sydd wedi aros gyda mi ac sy’n fy herio:

‘Rhoddodd fy Meistr, yr ARGLWYDD, dafod i mi siarad ar ei ran;

dw i wedi dysgu sut i gysuro’r blinedig.’

Dyna ichi her sy’n cael ei osod inni! Nid doniau inni ddefnyddio i’n defnydd ein hunain a gawson ni, ond i sicrhau bod bywydau eraill yn well o fod wedi bod yn ein cwmni. Mae hynny yn ymdrech barhaus gen i yn fy mywyd a’m gweinidogaeth fy hun. Ambell ddiwrnod, fe fydda i’n teimlo mod i’n ennill y frwydr honno, a dyddiau eraill… dwi’n sylweddoli pa mor feidrol ydw i!

Diolch o galon, Esgob Pat.